logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wrth gofio d’air, fy Iesu glân

Wrth gofio d’air, fy Iesu glân,
mawr hiraeth arnaf sy
am ddod yn isel ger dy fron
yn awr i’th gofio di.

Dy gorff a hoeliwyd ar y pren
yw bara’r nef i mi;
dy waed sydd ddiod im yn wir,
da yw dy gofio di.

Wrth droi fy llygaid tua’r groes,
wrth weled Calfarî,
O Oen fy Nuw, fy aberth drud,
rhaid im dy gofio di.

Dy gofio di a’th glwyfau oll,
dy angau drosof i;
tra byddaf fyw ni pheidiaf byth
fel hyn a’th gofio di.

A phan fo’n fud fy ngenau hyn
ar lan y beddrod du,
pan ddeui yn dy deyrnas lân,
O Arglwydd, cofia fi.

JAMES MONTGOMERY, 1771-1854 (According to thy gracious word) cyf. HYMNAU HEN A NEWYDD

(Caneuon Ffydd 484)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 24, 2015