logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wrth dy orsedd ‘rwyf yn gorwedd

(Ymroddiad hollol i ddisgwyl wrth Dduw)

Wrth dy orsedd ‘rwyf yn gorwedd,
Disgwyl am y ddedwydd awr,
Pryd gaf glywed llais gorfoledd,
Pryd gaf weld fy meiau i lawr:
Ti gei’r enw
Am y fuddugoliaeth byth.

Doed dy heddwch pryd y delo,
Mi ddisgwyliaf ddydd a nos;
Annherfynol ydyw haeddiant –
Haeddiant pur dy angau loes:
Tyrd yn fuan,
Mae dy hedd yn fwy na’r byd.

Bywyd perffaith yw dy gwmni,
Diliau mêl yw d’heddwch drud;
Gwerthfawrocach yw dy gariad
Na holl berlau’r India i gyd:
Gwlad o gyfoeth
Yw yn unig dy fwynhau.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 532)

PowerPoint