logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd

Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd
wrthrych teilwng o’m holl fryd,
er mai o ran yr wy’n adnabod
ei fod uwchlaw gwrthrychau’r byd:
henffych fore
y caf ei weled fel y mae.

Rhosyn Saron yw ei enw,
gwyn a gwridog, teg o bryd;
ar ddeng mil y mae’n rhagori
o wrthrychau penna’r byd:
ffrind pechadur,
dyma’r Llywydd ar y môr.

Beth sydd imi mwy a wnelwyf
ag eilunod gwael y llawr?
Tystio ‘rwyf nad yw eu cwmni
i’w gystadlu â’m Iesu mawr:
O am aros
yn ei gariad ddyddiau f’oes.

ANN GRIFFITHS, 1776-1805

(Caneuon Ffydd 319)

PowerPoint Gwrando

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015