logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wele’n dyfod ar y cwmwl

Wele’n dyfod ar y cwmwl
Mawr yw’r enw sy iddo’n awr;
Ar ei fraich ac ar ei forddwyd
Ysgrifenwyd ef i lawr;
Halelwia!
Groeso, groeso, addfwyn Oen.

Mil o filoedd, myrdd myrddiynau,
O gwmpeini hardd eu gwedd,
Welaf draw yn codi fyny
I’w gyfarfod Ef o’r bedd:
Darfu galar;
Dyma iachawdwriaeth lawn.

Nid oes yno gofio beiau;
Dim ond llawn faddeuant rhad,
Poenau’r groes, a grym y cariad,
A rhinweddau maith y gwaed;
Darfu ofni,
Daeth llawenydd yn ei le.

Dewch ymlaen, a dewch yn eofn,
Fendigedig blant fy Nhad;
Dewch, meddiannwch yr ardaloedd
Brynwyd i chwi oll â’m gwaed;
Dewch yn llawen:
Rhodd yw hon cyn seilio’r byd.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint