logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wele deulu d’Eglwys, Iesu

Wele deulu d’Eglwys, Iesu,
ger dy fron yn plygu nawr
wedi’i lethu gan ei wendid,
yn hiraethu am y wawr:
taer erfyniwn am gael profi
llawnder grym dy Ysbryd Glân
dry ein hofn yn hyder sanctaidd,
dry ein tristwch oll yn gân.

Lle bu ofn yn magu llwfrdra
ac esgusion hawdd gyhyd,
lle daeth niwloedd ein hanobaith
rhyngom ac anghenion byd,
O bywha ni drwy dy Ysbryd:
yn ei nerth fe fentrwn ni
i gyfeiriad byd a’i gyni
â goludoedd Calfarî.

O diddyma’r ffiniau, Arglwydd,
sy’n gwahanu plant y llawr,
a rhyddha ni drwy dy Ysbryd
i gyhoeddi’r deyrnas fawr:
dyro inni weled heddiw,
er terfysgoedd dynol-ryw,
groes yr Iesu’n unig obaith
dan ei chysgod gad in fyw.

Boed i’r Ysbryd a ddisgynnodd
ar dy blant, O Arglwydd Dduw,
ein hadfywio heddiw eto
nes ceir yma Eglwys fyw:
agor eto’i phyrth yn llydan
i holl angen dyn o hyd,
dyro iddi rym dy Ysbryd
fel y gwasanaetho’r byd.

GEOFFREY G. DAVIES Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 618)

PowerPoint