logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wele, cawsom y Meseia

Wele, cawsom y Meseia,
cyfaill gwerthfawroca’ ‘rioed;
darfu i Moses a’r proffwydi
ddweud amdano cyn ei ddod:
Iesu yw, gwir Fab Duw,
Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.

Hwn yw’r Oen, ar ben Calfaria
aeth i’r lladdfa yn ein lle,
swm ein dyled fawr a dalodd
ac fe groesodd filiau’r ne’;
trwy ei waed, inni caed
bythol heddwch a rhyddhad.

Dyma gyfaill haedda ‘i garu,
a’i glodfori’n fwy nag un:
prynu’n bywyd, talu’n dyled,
a’n glanhau â’i waed ei hun:
frodyr, dewch, llawenhewch,
diolchwch iddo, byth na thewch!

DAFYDD JONES, 1711-77

(Caneuon Ffydd 441)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015