logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wel, mae gen i neges i’r byd

Wel, mae gen i neges i’r byd –
Gwrandewch nawr ar eiriau ‘nghân.
Dwi ddim yn bregethwr mawr,
Ond mae nghalon i ar dân.
Nid fi yw yr unig un,
Mae’r fflam ar led drwy’r byd.
Cenhedlaeth o bobl sy’n hiraethu
Am gael gweld diwygiad mawr yn dod.

Haleliwia,
Pobl sy’n cael eu bendithio.
Haleliwia,
Fe drodd ein galar ni yn ddawnsio.
Diwygiad mawr –
O rho i Gymru ‘ma eto
Ddiwygiad mawr –
Daw’r fflam yn ôl ar ein hallor
Diwygiad mawr.

Wel mae gen i stori i’w dweud
Am Frenin y brenhinoedd oll;
Fe ddaeth a hedd a gobaith, cariad
A’r cyfiawnder sydd mor brin.
Fe drodd cenhedlaeth o alarwyr
Do, yn genhedlaeth o addolwyr;
Hon yw’r genhedlaeth o ddiwygwyr.
Dim sôn o gwbl ar y radio,
Ond mae rhyw wefr ar led drwy’r tir.

(Grym Mawl 2: 147)

Martin Smith a Struart Garrard: Well I’ve got a message to bring (Revival town)
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © Curious? Music UK. Gweinyddir gan Kingsway’s Thankyou Music.

PowerPoint