logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wel, f’enaid, dos ymlaen

Wel, f’enaid, dos ymlaen,
‘dyw’r bryniau sydd gerllaw
un gronyn uwch, un gronyn mwy,
na hwy a gwrddaist draw:
dy anghrediniaeth gaeth
a’th ofnau maith eu rhi’
sy’n peri it feddwl rhwystrau ddaw
yn fwy na rhwystrau fu.

‘R un nerth sydd yn fy Nuw
a’r un yw geiriau’r nef,
‘r un gras, a’r un ffyddlondeb sy ‘n
cartrefu ynddo ef:
fy ngwendid o bob math
a’m llygredigaeth cry’
ni threchant, er eu natur gas,
hyd fyth mo’r gras sydd fry

Mi welaf fyrdd dan sêl,
fu’n ofni fel fy hun,
nawr wedi dringo’r creigiau serth
i gyd drwy nerth yr Un;
yn canu’r ochor draw,
heb arnynt fraw na phoen,
ganiadau hyfryd Calfarî,
dioddefaint addfwyn Oen.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 750, Y Llawlyfr Moliant Newydd: 23)

PowerPoint