logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wel dyma’r Ceidwad mawr

Wel dyma’r Ceidwad mawr
a ddaeth i lawr o’r nef
i achub gwaelaidd lwch y llawr –
gogoniant iddo ef!
Bu farw yn ein lle
ni, bechaduriaid gwael;
mae pob cyflawnder ynddo fe
sydd arnom eisiau’i gael.

Ei ‘nabod ef yn iawn
yw’r bywyd llawn o hedd,
a gweld ei iachawdwriaeth lawn
sydd yn dragwyddol wledd:
cael teimlo gwaed y groes
yn dofi’r loes a’r cur
a wnaeth i filoedd o bob oes
gydseinio’r anthem bur.

JOHN THOMAS, 1730-1804?

(Caneuon Ffydd 344)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015