logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wel, dyma gyfoeth gwerthfawr llawn

Wel, dyma gyfoeth gwerthfawr llawn,
Uwch holl drysorau’r llawr,
A roed i’w gadw oll ynghyd,
Yn haeddiant Iesu mawr.

Ei gariad lifodd ar y bryn,
Fel moroedd mawr di-drai;
Ac fe bwrcasodd yno hedd
Tragwyddol i barhau.

Pan syrthio’r sêr fel ffigys ir,
Fe bery gras fy Nuw,
A’i faith ffyddlondeb tra fo nef;
Anghyfnewidiol yw.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint