logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wedi oesoedd maith o d’wyllwch

Wedi oesoedd maith o d’wyllwch,
mae’r argoelion yn amlhau
fod cysgodau’r nos yn cilio
a’r boreddydd yn nesáu;
Haul Cyfiawnder,
aed dy lewyrch dros y byd.

Mae rhyw gynnwrf yn y gwledydd
gyda thaeniad golau dydd,
sŵn carcharau yn ymagor,
caethion fyrdd yn dod yn rhydd:
Haul Cyfiawnder,
aed dy lewyrch dros y byd.

Nid oes aros, nid oes orffwys
mwyach i genhadau’r nef
nes cael holl dylwythau’r ddaear
i’w oleuni hyfryd ef:
Haul Cyfiawnder,
aed dy lewyrch dros y byd.

THOMAS REES, 1815-85

(Caneuon Ffydd 247)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015