logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Un peth

mae’r cerddoriaeth gyfoes ar gael – dilynwch y ddolen youtube

Mi brofais y byd a’r cyfan sy’ ar gael,
Ei wag addewidion.
O ddŵr ac o win fe yfais yn llwyr
A dal profi syched.
Ond mae yna ffrwd na fydd byth yn sych,
Dŵr bywyd a gwaed y gwinwydd ar gael.

Cytgan:
Ac mi wn nawr
Fod popeth sydd gen i yn ddim nawr,
Iesu, os nad ti yw’r un peth
Popeth sy’ arna’i angen nawr,
Popeth sy’ arna’i angen nawr.

Un peth sydd o bwys, cael dy ’nabod di,
A dyna a geisiaf.
I fod gyda thi a dilyn dy droed
Fy Nuw, fe ddilynaf.
Am bethau’r byd, fe’u cyfraf yn ddim
Fe’u hildiaf i gyd i godi dy groes.

Cytgan:
Ac mi wn nawr
Fod popeth sydd gen i yn ddim nawr
Iesu, os nad ti yw’r un peth
Popeth sy’ arna’i angen nawr
Popeth sy’ arna’i angen nawr

Cyfieithiad Cymraeg awdurdodedig: ‘One Thing’
Cerddoriaeth a geiriau gan: Joel Houston, Aodhan King & Dylan Thomas
Cyfieithiad gan: Arwel Jones
© 2015 Hillsong Music Publishing (APRA) PO Box 1195 Castle Hill NSW 1765 Australia
PH +61 2 8853 5353 FAX +61 2 8846 4625 E-bost: publishing@hillsong.com

PowerPoint youtube