logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Un fendith dyro im

Un fendith dyro im,
ni cheisiaf ddim ond hynny:
cael gras i’th garu di tra bwy’,
cael mwy o ras i’th garu.

Ond im dy garu’n iawn
caf waith a dawn sancteiddiach,
a’th ganlyn wnaf bob dydd yn well
ac nid o hirbell mwyach.

A phan ddêl dyddiau dwys
caf orffwys ar dy ddwyfron,
ac yno brofi gwin dy hedd
a gwledd dy addewidion.

Dy garu, digon yw
wrth fyw i’th wasanaethu,
ac yn oes oesoedd ger dy fron
fy nigon fydd dy garu.

EIFION WYN, 1867-1926

(Caneuon Ffydd 164)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015