logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tywysiast ni o’r byd a’i ru,

Gwasanaeth y Cymun (Tôn: Arizona, 662 Caneuon Ffydd)

Tywysiast ni o’r byd a’i ru,
i’th dawel hedd, Waredwr cu;
am fraint mor fawr o gael cyd-gwrdd,
a diolch down o gylch dy fwrdd.

Pâr inni weld, trwy lygaid gwas
ffordd barod, rad, dy ddwyfol ras,
can’s dysgaist ni, trwy siampl fad
i olchi traed, ni chwennych stad.

Ein dwylo tyn o’r greulon groes
rhag iddynt beri iti loes;
tynera hwy, nes rhont it fri
trwy gludo cariad Calfari.

Na foed i’n tafod ddigio’r nef
a’i ddolef brudd, “Croeshoelier Ef!”
“Hosanna” fo’n cyfarchiad triw
wrth ddatgan clod i’th enw gwiw.

Ffordd cariad pur yw ffordd yr Iawn,
ac ni all dyn ei throedio’n llawn,
ond bydded ôl ein gwadnau ni
yn amlwg ar ei phalmant hi.

Alice Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2016