logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tyred, Arglwydd Iôr, i lawr

Tyred, Arglwydd Iôr, i lawr;
tyred yn dy gariad mawr;
tyred, una ni bob un
yn dy gariad pur dy hun.

O llefara air yn awr,
gair a dynn y nef i lawr;
ninnau gydag engyl nen
rown y goron ar dy ben.

Yma nid oes gennym ni
neb yn arglwydd ond tydi;
ac ni cheisiwn arall chwaith
oesoedd tragwyddoldeb maith.

Arglwydd, disgyn oddi fry,
ac yn awr o fewn dy dŷ
tyn ni atat, gwna ni’n un
yn dy gariad pur dy hun.

R. J. DERFEL, 1824-1905

(Caneuon Ffydd 206)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 12, 2015