logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tyred Arglwydd â’r amseroedd

Tyred Arglwydd, â’r amseroedd
Y dymunwn eu mwynhau –
Pur dangnefedd heb dymhestloedd,
Cariad hyfryd a di-drai;
Gwledd o hedd tu yma i’r bedd,
Nid oes ond dy blant a’i medd.

Rho i mi arwydd cryf diymod,
Heb amheuaeth ynddo ddim,
Pa beth bynnag fo fy eisiau,
Dy fod Di yn briod im;
Gweld fy rhan ddeil i’r lan,
Ym mhob brwydyr, f’enaid gwan.

Ni all dim o’r storom danbaid,
Ni all dim o’r gwyntoedd cry’,
Guro i lawr ar enaid egwan
Welo’i drysor ynot Ti;
Profi o’th hedd, gweld dy wedd,
Goncra angau tu yma i’r bedd.

Af ar hyd fy ffordd yn ddiddig,
Af ar hyd fy ffordd yn hy,
Teithio’r anial mewn gorfoledd
O hyd golwg atat Ti;
D’eiriau Di, melys cu,
Sydd yn ddigon byth i mi.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 432)

PowerPoint