logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, rho dy wawr

Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, rho dy wawr,
datguddia ddyfnion bethau Duw;
eglura inni’r enw mawr
a gwna’n heneidiau meirw’n fyw.

Gad inni weld, yn d’olau di,
fod Iesu’n Arglwydd ac yn Dduw,
a than d’eneiniad rho i ni
ei ‘nabod ef yn Geidwad gwiw.

O’i weled yn d’oleuni clir
cawn brofi rhin ei farwol loes
a thystio â llawenydd gwir
mai’n rhan yw’r hwn fu ar y groes.

Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, tyrd yn awr
a gweithia ynom nerthol ffydd,
ac yn dy hyfryd nefol wawr
ein tywyll nos â’n olau dydd.

CHARLES WESLEY, 1707-88 (Spirit of faith, come down) cyf. JOHN BRYAN, 1770-1856 ac eraill

(Caneuon Ffydd 572)

PowerPoint