logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tyrd, Ysbryd Glân, rho d’ olau clir

Tyrd, Ysbryd Glân, rho d’ olau clir
I’n harwain drwy yr anial dir;
Fel gallom ddilyn hwnnw a roes
Ei fywyd trosom ar y groes;
Yna, ‘n ôl gorffen ar ein gwaith,
Cael gweld ei wedd ar ben y daith.

Tyrd, Ysbryd Glân, i’w casglu oll,
Dy blant sy’n cyflym fynd ar goll;
Oddi wrth eu Tad sy’n crwydro ‘mhell,
Arwain hwy’n ôl i fywyd gwell.
Y teulu’n llawn fo’n llon eu cân
I’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân.

Tyrd, Ysbryd Glân, nac aros draw,
Tyrd â thangnefedd yn dy law;
Taena dy ddoniau fel y gwlith,
Nes meithrin heddwch yn ein plith;
Dysg ni fod holl deyrnasoedd llawr
Yn ddeiliaid bawb i’r Brenin mawr.

Jack Edwards (1853-1942)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • November 10, 2015