Gobaith

Tyrd atom Iôr

Tôn: Ellers (545 Caneuon Ffydd)

Pan dry atgasedd dyn at ddyn yn drais,
Yr hen, y llesg a’r du ei groen heb lais,
O Arglwydd, tyrd yn nes a thyrd yn glau
i’n dysgu i gadw drws pob cas ar gau.

Pan fydd cyffuriau caeth yn llethu dyn,
na foed i’n dirmyg glwyfo’r gwael ei lun,
a phan gystuddir un o’th blant gan haint,
boed inni gyfrif estyn llaw yn fraint.

Pan glywn am arfau erch ein byd di-foes,
a thynged dyn mewn mantol drwy ei oes,
rho ynom nerth i draethu’n hy, O Dad,
mai gras, nid grym, yw d’arf yn ddiymwâd.

Pan welwn dristwch gwedd y llu di-waith,
pan gwyd terfysgoedd a phan sathrir iaith,
a thra fydd dyn yn hawlio mwy na’i ran,
pâr inni weld bod hyn yn groes i’r Plan.

Pan fo d’efengyl di yn destun gwawd,
y Sul yn sarn a gwisg y saint yn dlawd,
a’n plant yn medi ffrwyth ein llacrwydd ni,
tyrd i’n cymdeithas Iôr, a phura hi.

Alice Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 1, 2016