logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tydi, y cyfaill gorau

Tydi, y cyfaill gorau,
a’th enw’n Fab y Dyn,
rho’r cariad in at eraill
gaed ynot ti dy hun,
a deled dydd dy deyrnas,
dydd hawddfyd hir a hedd
pan welir plant y cystudd
oll ar eu newydd wedd.

Mae’r eang greadigaeth
yn ocheneidio’n wyw
am weled dydd datguddiad
a gwynfyd meibion Duw;
ffynhonnell fawr y bywyd
sy’n adnewyddu’r byd,
gwisg anial leoedd daear
â blodau’r nef i gyd.

GWILI, 1872-1936

(Caneuon Ffydd 253)

PowerPoint

 

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015