logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tydi fy Arglwydd yw fy rhan

Tydi, fy Arglwydd, yw fy rhan,
A doed y drygau ddêl;
Ac er bygythion uffern fawr,
Dy gariad sy dan sêl.

Oddi wrthyt rhed, fel afon faith,
Fy nghysur yn ddi-drai;
O hwyr i fore, fyth yn gylch,
Dy gariad sy’n parhau.

Uwch pob rhyw gariad is y nef
Yw cariad pur fy Nuw;
Anfeidrol foroedd dyfnion maith,
Heb fesur arno, yw.

Dechreuodd draw cyn creu y byd,
Fe bery byth ymlaen;
Heb un cyfnewid, a heb drai,
Pan elo’r byd yn dân.

O! deuwch, gwelwch – chwiliwch ef,
Anfeidrol gariad mawr,
Ag sydd yn maddeu miloedd myrdd
O feiau yn yr awr.

Yn para yn ffyddlon fyth heb drai,
Ffordd bynnag y trŷ’r byd;
A phe cymysgai tir a’r môr,
Yr un yw ‘Nuw o hyd.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2017