logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

T’wynned heulwen ar fy enaid

T’wynned heulwen ar fy enaid,
Blinais ganwaith ar y nos;
Nid yw ‘mhleser, na’m teganau,
Na’m heilunod, ond fy nghroes;
Mynwes Iesu yw f’hapusrwydd;
O! na chawn i yno fod:
Fe rôi cariad dwyfol perffaith
Fy mhleserau dan fy nhroed.

Eto unwaith mi ddyrchafaf
Un ochenaid tua’r nef,
Ac a ŵylaf ddagrau’n hidil
Am ei bresenoldeb Ef;
Pwy a ŵyr na wrendy clustiau
‘R Hwn a grëodd ddaer a nen,
Ac na ddaw fy nymuniadau
Trist hiraethlon oll i ben?

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 584)

PowerPoint