logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tu hwnt i’r Groes

Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron,
Er cwpan gwawd un bychan yw,
Ond cwpan Iesu i’r ymylon,
Fu’n gwpan llid digofaint Duw.

Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron,
O gwrando Iesu ar fy nghri,
Er nad oes gennyf ddim i’w gynnig,
Fy Arglwydd Iesu, – cofia fi.

Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron,
Er nad oes haeddiant ynof chwaith,
Dim ond trugaredd mawr y Duwdod
A gwaed y Groes yn gwneud y gwaith.

Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron,
“A heddiw, byddi gyda mi
Ym M’radwys yn byw’n dragwyddol,”
Fy Arglwydd Iesu – cofiaist fi.

Geiriau: Alwyn Pritchard (Sail Beiblaidd, Luc 23:42-43)
Ar y dôn St Clement (Rhif 36, Caneuon Ffydd)

PowerPoint St.Clement

I glywed St.Clement ar dudalen arall, pwyswch y botwm ac yna dewiswch, ‘Audio files – Midi’ neu ‘Recording.’

  • Gwenda Jenkins,
  • July 12, 2018