logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Trwyddot ti

Trwyddot ti, y mae popeth wedi’i greu
Er dy fwyn, yr wyf finnau’n byw bob dydd
Ynddot ti, saif popeth yn ddi-wahân,
Trwyddot ti, er dy fwyn, ynddot ti.

Ynddot ti, y mae holl drysorau bywyd,
Ynddot ti, mae gwybodaeth sy’n guddiedig,
Ynddot ti, y mae gobaith ein gogoniant:
Crist ynom ni, gwnest ni’n
Sanctaidd a di-fai a di-gerydd;
Yn sanctaidd a di-fai a di-gerydd, gwnest ni’n
Sanctaidd a di-fai a di-gerydd;
Gan fod Crist ynom ni, ac rwyt Ti’n
Sanctaidd a di-fai a di-gerydd;
Yn sanctaidd a di-fai a di-gerydd, rwyt Ti’n
Sanctaidd a di-fai a di-gerydd,
Ein ffynhonnell ni wyt Ti.

Trwy dy nerth, mae llawenydd ym mhob dim,
Yn dy wedd, y mae delw Duw ei hun,
Ynddot ti daw y nef a dae’r ynghyd
Trwy dy nerth, yn dy wedd, ynddot ti.

@Elise Gwilym 2006 (Colosiaid 1)

MP3 Cordiau PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • May 14, 2019