logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Trwy y Groes, Iesu, gorchfygaist

Trwy y Groes, Iesu, gorchfygaist,
Trwy dy waed prynaist ein hedd.
Lle bu angau gynt ac arwahanrwydd,
Nawr llifa’r bywiol ddŵr.

Bywiol ddŵr, bywiol ddŵr,
Afon bywyd llifa’n rhydd.
Grasol Dduw clyw di ein cri;
Afon bywyd llifa’n rhydd.

Rhwyma’r clwyfau ar aelwydydd,
Gwŷr a gwragedd gwna’n gytun.
Todda galon tad yng ngŵydd ei blentyn,
O! llifa, fywiol ddŵr,

Dymchwel furiau’r rhai ynysig,
Achub bawb sy’n byw mewn ofn.
Boed i’r unig ganfod cariad teulu,
O! llifa, fywiol ddŵr.

Boed i’th Eglwys weithio’n unol
A chael Iesu wrth y llyw.
Hen ac ifanc gwyd eu lleisiau’n llawen
I ganu’th glod ein Duw.

Bywiol ddŵr….

(Grym Mawl 2: 134)

Mike Burn: Through the Cross (Healing river)
Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd Timothy
Hawlfraint © 1996 Daybreak Music Ltd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015