logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Trwy nos galar ac amheuon

Trwy nos galar ac amheuon
Teithia pererinion lu,
Ânt dan ganu cerddi Seion
Tua gwlad addewid fry.

Un yw amcan taith yr anial,
Bywiol ffydd, un hefyd yw;
Un y taer ddisgwyliad dyfal,
Un y gobaith ddyry Duw.

Un yw’r gân a seinia’r miloedd
O un galon ac un llef;
Un yw’r ymdrech a’r peryglon,
Un yr ymdaith tua’r nef.

Un yw’r llawen orfoleddu
Ar y lan tu draw i’r bedd;
Lle teyrnasa’r Un anfeidrol
Dad, mewn cariad byth a hedd.

Bernhardt Severin Ingemann (1789-1862)
Cyf. Sabine Baring-Gould (1834-1924) ac Elis Wyn o Wyrfai (1827-95)

PowerPoint