logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr

Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr
yn dwyn ei waith i ben;
ei lwybrau ef sydd yn y môr,
marchoga wynt y nen.

Ynghudd yn nwfn fwyngloddiau pur
doethineb wir, ddi-wall,
trysori mae fwriadau clir:
cyflawnir hwy’n ddi-ball.

Y saint un niwed byth ni chânt;
cymylau dua’r nen
sy’n llawn trugaredd, glawio wnânt
fendithion ar eu pen.

Na farna Dduw â’th reswm noeth,
cred ei addewid rad;
tu cefn i len rhagluniaeth ddoeth
mae’n cuddio ŵyneb Tad.

Bwriadau dyfnion arfaeth gras
ar fyr aeddfeda’n llawn;
gall fod y blodau’n chwerw eu blas,
ond melys fydd y grawn.

WILLIAM COWPER (God moves in a mysterious way), 1731-1800 cyf. LEWIS EDWARDS, 1809-87

(Caneuon Ffydd 66)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan