logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Trugaredd

[Hebreaid 4:14-16, Alaw: Deio Bach]

Pan mae pobl yn dy wrthod
Cofia Iesu ar y groes
Pan mae eraill yn dy wawdio
Cofia iddo ddioddef loes.
Cariodd Ef ein holl fethiannau,
Teimlodd Ef y poen i gyd;
Archoffeiriad ydyw’r Iesu
Gyd-ddioddefa â’n gwendid ni.

Pan mae bywyd yn dy brofi
Dal dy afael yn dy ffydd.
Wedi ei demtio oedd yr Iesu
Ym mhob peth, ‘run modd â ni.
Felly, gawn ni gyda hyder
Nesu at orsedd gras y Tad
Er mwyn derbyn ei drugaredd
A chael cymorth gras yn rhad.

© Cass Meurig Chwefror 2019

PowerPoint PDF MP3
  • Gwenda Jenkins,
  • April 23, 2019