logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tro fy ngolwg

Ti’n cynnig rhyddid
A bywyd llawn,
Ti yn drugarog,
Ti’n obaith pur,
Ti’n hoffi maddau
Ein beiau lu,
Ti’n cynnig popeth sydd
Ar fy nghyfer i.

Er mod i’n diodde’
A chwympo’n fyr,
Yn profi c’ledi
Tu yma i’r nef,
Dros dro yn unig
Mae’r bywyd hwn,
Cyn nefol wynfyd
Sydd yn para byth.

Tro fy ngolwg i at Iesu,
Ynddo Ef mae ngobaith i;
Yn lle edrych ar y storom
Syllaf arno Fe.

Ti yw ein trysor
A’n gwobr ni,
Bendith dragwyddol
Yw’th fwriad Di.
Dim mwy o dristwch
Na dagrau chwaith,
Dim ond dy gariad Di
Bob cam o’r daith.

Mi glywaf engyl
A chân y côr,
A bloedd dy bobl
Yn dathlu fry;
Holl lwythau’r ddaear
A ddaw ynghyd,
Fe ganant gân o fawl
I’r Brenin byw.

Tro fy ngolwg i at Iesu
Gwn fod E’n dod yn ôl,
O am ddechrau byw fy nefoedd,
Deled dy deyrnas fy Nuw.

Fix My Eyes: Lou Fellingham, Nathan Fellingham, Sam Cox a Rebekah Cox
Cyfieithiad Awdurdodedig: Rhian Abbott a Gwenda Jenkins

Hawlfraint © a’r cyfieithiad hwn 2014 Thankyou Music/Gweinyddir gan CapitolCMG Publishing.com ddim yn cynnwys. UK & Europe, gweinyddir gan Integritymusic.com, rhan o David C Cook songs@integritymusic.com Defnyddir drwy ganiatâd.

PowerPoint Gwylio’r fersiwn Saesneg ar youtube