logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn

Torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn,
torrwn fara ar ein gliniau yn gytûn,
a phan rof fy ngliniau i lawr gan wynebu haul y wawr,
O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi.

Yfwn win ar ein gliniau yn gytûn,
yfwn win ar ein gliniau yn gytûn,
a phan rof fy ngliniau i lawr gan wynebu haul y wawr,
O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi.

Molwn Dduw ar ein gliniau yn gytûn,
molwn Dduw ar ein gliniau yn gytûn,
a phan rof fy ngliniau i lawr gan wynebu haul y wawr,
O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi.

CÂN AFFRO-AMERICANAIDD cyf. R. GLYNDWR WILLIAMS,  © Mrs Mair Williams. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 671)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 19, 2016