logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti’n rhoi i mi

Ti’n rhoi i mi statws a gwerth,
Ti’n rhoi i mi awdurdod a nerth,
Ti’n dangos pwy ydw i –
Rydw i’n blentyn i Ti.

Ti’n rhoi i mi dy gyfiawnder mwyn,
Ti’n rhoi i mi dy fywyd yn llwyr,
Ti’n eiddo i mi fy hun,
Rydw i’n eiddo i Ti.

Dwi’n plygu glin i’th fawredd Di,
A dyma fi yn rhoi fy hun i Ti-
O cymer fi, O cymer fi
I ddyfnderoedd dy gariad Di
A dyma pam dwi’n llawenhau,
A dyma pam dwi’n ufuddhau i Ti
O cymer fi, O cymer fi
I ddyfnderoedd dy gariad Di, Iesu.

Ti’n rhoi i mi dderbyniad a hedd
Ti’n rhoi i mi dy darian a chledd,
Ti’n dangos beth ydw i –
Cyd-etifedd â Christ.

Brenhiniaeth offeiriadol,
Un genedl sanctaidd ŷm,
Yn cael ein hadeiladu
Yn dŷ ysbrydol Duw ei hun.

@Elise Gwilym 2006

MP3 Cordiau PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • May 14, 2019