logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti’n dweud “tyrd”

Ti’n dweud “tyrd,” Ti yw Arglwydd y nefoedd;
Ti’n dweud “tyrd” wrth blentyn euog fel fi;
Ti’n dweud “tyrd” a dwi’n cuddio rhag dy wyneb
ond rwyt Ti’n dal i alw, ac felly dwi’n dod.

Wna i godi a rhedeg i fod yn dy gwmni
i dderbyn dy faddeuant sy di brynu i mi;
Mi gaf fy nerbyn a dof ger dy fron Di;
O Dad nefol, pwy all garu fel Ti?

Ti’n dweud “dewch,” Ti yw Arglwydd y nefoedd;
Ti’n dweud “dewch” wrth blant euog fel ni;
Ti’n dweud “dewch,” dyn ni’n cuddio rhag dy wyneb
ond rwyt Ti’n dal i alw ac yn ein ceisio ni:

“Dewch i godi a rhedeg i fod yn Fy nghwmni
i dderbyn Fy maddeuant sy ’di’i brynu i chi;
Mi gewch eich derbyn – cewch ddod ger Fy mron i;
Does ‘na neb arall sydd yn caru fel Fi.”

Cytgan olaf:
Gwnawn ni godi a rhedeg i fod yn dy gwmni
i dderbyn dy faddeuant sy ’di’i brynu i ni;
Ac fe gawn ein derbyn, cawn ddod ger dy fron Di;
O Dad nefol, pwy all garu fel Ti?

Hawlfraint © 2012 Andy Hughes & Carys Hughes

PowerPoint PowerPoint lliw PDF MP3