logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti yw’r Un sy’n adnewyddu

Ti yw’r Un sy’n adnewyddu,
ti yw’r Un sy’n bywiocáu;
ti yw’r Un sy’n tangnefeddu
wedi’r cilio a’r pellhau:
bywiol rym roddaist im,
bellach ni ddiffygiaf ddim.

Ti rydd foliant yn y fynwes,
rhoddi’r trydan yn y traed;
ti rydd dân yn y dystiolaeth
i achubol werth dy waed:
cawsom rodd wrth ein bodd,
ofn y galon friw a ffodd.

Deued fflam yr adnewyddiad,
rhodded Gymru oll ar dân;
deuwn ato’n edifeiriol
ac fe droir ein gwarth yn gân:
dwyfol ias, nefol flas
ddaw drwy’r Ysbryd Glân a’i ras.

DAN LYNN JAMES, 1928-93 © E. L. James. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 579)

PowerPoint