logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti yw’r llew o lwyth Jwda

Ti yw’r llew o lwyth Jwda,
Yr Oen gafodd glwy’,
Fe ddyrchefaist i’r Nefoedd –
Teyrnasu wnei byth mwy;
Ac ar ddiwedd yr oes wrth it adfer y byd
Fe wnei gasglu’r cenhedloedd o’th flaen di.

Caiff holl lygaid dynoliaeth eu hoelio
Ar Oen Duw groeshoeliwyd in,
A doethineb, a chariad, a thegwch
Deyrnasa ‘r ddeheulaw’r Un.

A’r angylion ront floedd:
‘Wele’r Oen gas ei ladd dros y byd –
Nawr mewn grym.’
Ac fe etyb y byd:
‘Wele’r Oen sydd yn frenin brenhinoedd
Ac Arglwydd y Nef.’

‘Gennym darian i’n gwarchod a chleddyf wrth law;
Mae ‘na dân yn ein hysbryd
I gadw’r gelyn draw.
Fe ddywedodd y Tad, ‘Dros y rhain cefaist glwy.’
Ac fe gasgla’r cenhedloedd o’th flaen di.

Rhaid i gustiau’r ddynoliaeth gael clywed
Am Oen Duw groeshoeliwyd in,
A ddisgynnodd i uffern, ond nawr
Fe deyrnasa ‘r ddeheulaw’r Un.

A’r angylion…

(Grym Mawl 2: 161)

Robin Mark: You’re the lion of Judah, Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwion Hallam
Hawlfraint © 1996 Daybreak Music Ltd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015