logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti yr hwn sy’n gwrando gweddi

Ti yr hwn sy’n gwrando gweddi,
atat ti y daw pob cnawd;
llef yr isel ni ddirmygi,
clywi ocheneidiau’r tlawd:
dy drugaredd
sy’n cofleidio’r ddaear faith.

Minnau blygaf yn grynedig
wrth dy orsedd rasol di,
gyda hyder gostyngedig
yn haeddiannau Calfarî:
dyma sylfaen
holl obeithion euog fyd.

Hysbys wyt o’m holl anghenion
cyn eu traethu ger dy fron;
gwyddost gudd feddyliau ‘nghalon
a chrwydriadau mynych hon:
O tosturia
ymgeledda fi â’th ras.

Nid oes ond dy ras yn unig
a ddiwalla f’eisiau mawr;
O rho’r profiad bendigedig
o’i effeithiau imi nawr:
Arglwydd gwrando
mewn trugaredd ar fy  llef.

MEIGANT, 1851-99

(Caneuon Ffydd 700)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015