logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti, o Dduw, biau’r mawredd

Ti, o Dduw, biau’r mawredd,
A’r holl allu a’r gogoniant,
Ti, o Dduw, biau’r fuddugoliaeth,
Brenin y brenhinoedd wyt.

Eiddot ti yw popeth drwy’r ddaear a’r nef,
Ymddyrchefaist ti Dduw goruwch popeth sydd!

Yn dy law mae nerth a chadernid hyd byth,
Yn dy law mae’r gallu i roi cryfder i’n.

Daeth ein hiachawdwriaeth, i ti canwn glod!
Cyfoeth ac anrhydedd y deyrnas sy’n dod!

(Grym Mawl 1: 160)

Suella Behrns: Thine, o Lord is the greatness, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © Christian Fellowship of Columbia 1981

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015