logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti gyda ni

Mae’n ddirgelwch mawr i mi
Y gallai dwylo’r Arglwydd fod mor fach.
Y bysedd bychan yn ymestyn yn y nos,
Dwylo a osododd holl derfynau’r nef.

Cytgan
Haleliwia, Haleliwia,
Cariad Nef
Ddaeth i lawr i’n hachub ni.
Haleliwia, Haleliwia,
Mab ein Duw,
Brenin tlawd gyda ni.
Ti gyda ni.

Mae’n ddirgelwch mawr i mi
Iddo weld â’i lygaid
Ddechrau amser maith.
Iddo glywed anthem côr angylion glân
Ond eto’n awr mae Prynwr byd ym mreichiau Mair.

Iesu y Crist,
Baban Bethlehem.
Mab bach Duw
A ddaeth
I achub dynol ryw.

Gwreiddiol: Here With You
Awdur/Cyfansoddwr: Glover/Ingram/Williams
Teitl Cymraeg: Ti gyda Ni
Cyfieithydd: Susan Williams

© 2015 New Spring Publishing/Wordspring Music/J Ingram Music/Years later Music (Gweinyddir gan Song Solutions www.songsolutions.org) Cedwir pob hawl. Defnyddir drwy ganiatad.

PowerPoint Cordiau gitar Gwylio a gwrando ar youtube