logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti fu gynt yn gwella’r cleifion

Ti fu gynt yn gwella’r cleifion,
Feddyg da,
dan eu pla
trugarha wrth ddynion.

Cofia deulu poen, O Iesu:
ymhob loes
golau’r groes
arnynt fo’n tywynnu.

Llaw a deall dyn perffeithia,
er iachâd
a rhyddhad,
Nefol Dad, i dyrfa.

Rho dy nodded, rho dy gwmni
nos a dydd
i’r rhai sydd
ar y gwan yn gweini.

Dwg yn nes, drwy ing a phryder,
deulu poen,
addfwyn Oen,
at dy fynwes dyner.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 823)

PowerPoint