logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti, Farnwr byw a meirw

Ti, Farnwr byw a meirw
Sydd ag allweddau’r bedd,
Terfynau eitha’r ddaear
Sy’n disgwyl am Dy hedd.
‘D yw gras i Ti ond gronyn,
Mae gras, ar hyn o bryd,
Ryw filoedd maith o weithiau
I mi yn well na’r byd.

O flaen y fainc rhaid sefyll,
Ie, sefyll cyn bo hir;
Nid oes a’m nertha yno
Ond Dy gyfiawnder pur.
Myfi anturia’n eon
Trwy ddyfroedd a thrwy dân
Heb olau a heb lewyrch,
Ond Dy gyfiawnder glân.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 303)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015