logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti Arglwydd yw fy rhan

Ti Arglwydd yw fy rhan,
A’m trysor mawr di-drai;
A Noddfa gadarn f’enaid gwan,
Ym mhob rhyw wae:
Ac atat ‘rwyf yn ffoi,
Dy fynwes yw fy nyth,
Pan fo gelynion yn crynhoi
Rifedi’r gwlith.

Tydi, fy Nuw, ei hun,
Anfeidrol berffaith Fod,
Sy’n trefnu daear, da, a dyn,
I’th ddwyfol glod;
Tywysa f’enaid gwan,
Drwy’r anial yn y blaen,
Ac arwain fi ‘mhob dyrys fan,
Â’th golofn dân.

Dy Ysbryd sanctaidd, cun,
Dywysodd fyrdd o saint,
Rho imi brofi ei felys rin,
Anfeidrol fraint;
Fel dyfroedd gloyw clir,
I lonni’r llesg a’r gwan,
D’ddanwch yn yr anial dir,
I’m dal i’r lan.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 276)

PowerPoint