logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti, Arglwydd y goleuni

Ti, Arglwydd y goleuni,
sy’n troi y nos yn wawr,
sy’n anfon fflam dy Ysbryd
i danio plant y llawr,
O derbyn heddiw’n moliant,
a’n diolch, nefol Dad,
am anfon gwres a golau
dy Air yn iaith ein gwlad.

Taranai dy broffwydi
yn rymus eu Hebraeg,
ond O’r fath fraint eu clywed
yn siarad yn Gymraeg.
Daeth Groeg yr apostolion
am Iesu a’i wyrthiau ef
i seinio yn ein heniaith,
a’i throi yn iaith y nef.

Ar lafur y Dadeni
daeth gwlith dy fendith fawr,
ar waith ein canrif ninnau
difered eto i lawr.
Am bawb a ddug dy eiriau
ar newydd wedd i ni
diolchwn heddiw, Arglwydd,
mewn uchel ŵyl i ti.

Rho gymorth in i ddarllen
dy air yn iaith ein dydd,
a gwna ni’n ddoeth i’w ddeall
a’i ddeall ef mewn ffydd.
Cynhyrfed fflam dy Ysbryd
eneidiau llesg ein hoes;
llewyrched Cymru eto
yng ngolau gwyn y Groes.

Geiriau: Gwynn ap Gwilym
Tôn: Penlan
Emyn a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer gwasanaeth dathlu lansio y Beibl Cymraeg Newydd yn Tabernacl, Caerdydd, mis Mawrth 1988.

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Rhys Llwyd,
  • March 11, 2020