logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Teyrnas

Fel y lefain yn y blawd
Wedi ei guddio a’i dylino
Eto’n tyfu yn y dirgel
Nes caiff y cwbl ei lefeinio;
Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw,
Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw.

Deled dy deyrnas
Gwneler d’ewyllys
Yma ar y ddaear
Fel yn y nefoedd

Fel yr hedyn lleiaf un
Wedi ei guddio’n anweledig
Eto’n tyfu’n llwyn canghennog
Lle caiff yr adar nythu’n ddiddig;
Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw,
Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw.

Fel y trysor yn y cae
Wedi ei guddio, wedi ei gladdu
Eto rhywun, wedi ei ganfod,
Werthodd y cwbl er ei brynu;
Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw,
Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw.

Ac eiddot ti yw’r deyrnas
A’r gallu a’r gogoniant,
Ac eiddot ti yw’r deyrnas
A’r gallu a’r gogoniant.
Amen!

Geiriau: Cass Meurig Alaw: Hiraeth (tradd)

PowerPoint Cerddoriaeth Dogfen Word MP3
  • Gwenda Jenkins,
  • May 3, 2016