logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

TEST 1

Os oes syched
arnaf fi
Mentra ato Ef;
Ni chei orffwys heb ei ras,
Mentra ato Ef;

Os wyf wan
Mae Iesu’n dweud:
Mentra ato Ef;
Neb ond Ef fydd imi’n nerth:
Mentra ato Ef;

Cytgan
Canys da yw ‘Nghrist a ffyddlon,
Ddydd a nos fe’m ceidw’n fyw.
Y mae croeso’m mreichiau Iesu:
Cryf, caredig yw.

Pan wyf ofnus
Crist sy’n dweud:
Mentra ato Ef;
Ef yw’m tarian rhag pob drwg,
Mentra ato Ef;

Cytgan
Canys da yw ‘Nghrist a ffyddlon,
Ddydd a nos fe’m ceidw’n fyw.
Y mae croeso’m mreichiau Iesu:
Cryf, caredig yw.

Dwedodd Crist, os wyf ar goll,
Daw Ef ataf fi,
Profodd hynny ar y groes,
Daw ef ataf fi.

Cytgan
Canys da yw ‘Nghrist a ffyddlon,
Ddydd a nos fe’m ceidw’n fyw.
Y mae croeso’m mreichiau Iesu:
Cryf, caredig yw.

Jesus, strong and kind:Geiriau a cherddoriaeth gan COLIN BUCHANAN, MICHAEL FARREN, JONNY ROBINSON & RICH THOMPSON
Cyfieithiad – Dafydd M Job

PowerPoint 4:3 PowerPoint 16:9 YouTube (yn Saesneg)
  • Rhys Llwyd,
  • May 14, 2020