logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Telynau bychain Iesu

Yr adar bach sy’n canu
Yn swynol ar y coed,
Canmolant gariad Iesu,
Y gorau fu erioed,
Telynau bychain ydynt
I lonni’r galon drist,
‘D oes allu i ddistewi
Eu cân o fawl i Grist.

Cytgan:
Telynau bychain Iesu,
a’u sain yn cyrraedd nef,
I uno yn yr anthem.
O foliant iddo Ef.

Y blodau sydd yn tyfu
yn brydferth yn yr ardd,
Y rhai sydd yn addurno
Ein daear lom mor hardd;
Telynau ydynt hwythau
Yn rhoi i’r Iesu glân
Ei miwsig pur yn foliant
Ar hyd eu tannau mân.

Cytgan

Nyni blant bach sy’n canu
Am rinwedd gwaed y Groes,
A charu sôn am Iesu
Ar ddechrau gyrfa oes,
Telynau ydym ninnau,
A’n tannau’n aur bob un,
Yn felys wedi’u tiwnio
Gan Iesu Grist ei Hun.

Cytgan

Caradog Williams

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • November 10, 2015