logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Teilwng, rwyt Ti’n deilwng

Teilwng, rwyt Ti’n deilwng
Tu hwnt i’m meddyliau i
Ni alla i ddychmygu
Beth yw maint d’ogoniant Di
Ni alla i byth ddechrau dweud
Mor ddwfn yw’th gariad di
Clywais Iôr amdanat Ti
Ond nawr mi welaf i.

Ti’n deilwng
Ti’n deilwng
Ti’n deilwng
Ti’n deilwng o bob clôd
Byth bythoedd ac am oes.

Rhof ogoniant i Ti,
Yr un f’achubodd i
Ffeindiaist a’m rhyddhau i
O’m holl gywilydd i
Ni alla i byth ddechrau dweud
Am dy drugaredd im
Clywais Iôr amdanat Ti
Ond nawr mi welaf i.

Fe ganwn anthem o fawl i ti
Dyrchafu enw ein brenin ni.

Worthy, You Are Worthy: Matt Redman, Cyfieithiad Awdurdodedig: Robin, Fi ac Alwena Luff
Copyright © and in this translation 1999 Thankyou Music/Adm. by CapitolCMGPublishing.com excl. UK & Europe, adm. by Integritymusic.com, a division of David C Cook songs@integritymusic.com Used by permission

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 8, 2015