logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tad tragwyddoldeb, plygaf ger dy fron

Tad tragwyddoldeb, plygaf ger dy fron,
ceisiaf dy fendith ddechrau’r flwyddyn hon;
trwy blygion tywyll ei dyfodol hi,
Arweinydd anffaeledig, arwain fi.

Beth fydd fy rhan ar hyd ei misoedd maith?
Nis gwn, fy Nuw; ni fynnwn wybod chwaith.
Ai hyfryd ddydd, ai nos dymhestlog ddaw?
Bodlon, os caf ymaflyd yn dy law.

Ffydd, gobaith, cariad – doniau pennaf gras
addurno f’oes wrth deithio’r anial cras;
rho imi beunydd fyw’n d’oleuni di:
Ddihenydd sanctaidd, tyred, arwain fi.

Heneiddia’r greadigaeth, palla dyn,
diflanna oesoedd byd o un i un;
er cilio popeth, un o hyd wyt ti:
y digyfnewid Dduw, O arwain fi.

T. J. PRITCHARD, 1853-1918

(Caneuon Ffydd 92)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan