logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Sicrwydd bendigaid

Pennill 1
Roedd fy ymdrechion i gael boddhad
Yn wag ac ofer
Nes i dy gariad fy llenwi i
Wrth ddod i’m hachub

Rhag-gytgan
F’enaid cân, nawr f’enaid cân

Cytgan
O sicrwydd bendigaid
Gaf ynot Ti, gaf ynot Ti
Ni chaf fy ysgwyd, ni’m symudir mwy
Dy law sydd mor gadarn
I ‘nghadw i, fy nghadw i
Ni chaf fy ysgwyd, ni’m symudir mwy
(O sicrwydd bendigaid)

Pennill 2
Ni chlywais i ‘rioed am gariad gwell
Na’th gariad Di, Dduw
Ni chefais i fod ‘na gariad wnaeth
Yr hyn a wnest Ti

Rhag-gytgan

Cytgan

Pont
Fy angor bythol, fy nerth am byth
Fy nghyfran fythol a’m hangen oll
Bythol Iachawr, ‘ngobaith am byth
Bythol wirionedd i ‘nhywys i
Fy nhywys i

Cytgan (X2)

Sicrwydd bendigaid
Blessed Assurance (All my attempts to be satisfed) (Jaywan Maxwell, Michael Farren, Nathan Singh, and Rhyan Shirley)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones ac Arfon Jones
© 2016 CityAlight Music (Gwein. gan Integrity Music)
Farren Love And War Publishing (Gwein. gan Integrity Music)
Integrity’s Alleluia! Music (Gwein. gan Integrity Music)
Integrity’s Praise! Music (Gwein. gan Integrity Music)
Rhyan Shirley Pub (Gwein. gan Integrity Music)
The Rain Collective Publishing (Gwein. gan Integrity Music)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021