logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Seren Bethlehem: Rhyfeddod Ei ddyfod gyhoeddwyd gan hon,

Seren Bethlehem

Rhyfeddod Ei ddyfod gyhoeddwyd gan hon,
Bu disgwyl amdano ganrifoedd o’r bron,
Gwireddwyd i ddoethion o’r dwyrain, y Gair
Broffwydodd y Tadau am Grist, faban Mair.

Bugeiliaid a’i canfu yng nghwmni llu’r Nef
Wrth warchod eu preiddiau uwchlaw Bethlem dref,
Arweiniodd hwy’n union at lety oedd dlawd
I syllu a synnu at Dduwdod mewn cnawd.

Goleuni y seren lewyrcha o hyd
Er gwaethaf pob Herod a ddeil yn y byd,
Gan ddatgan ei neges yn ddisglair ei threm
Mai’r ffordd at yr Iesu yw ffordd Bethlehem.

Myfi Evans © Pwyllgor Eisteddfod Fawr Aberteifi, 2015

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 17, 2016