logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Seiniwch utgorn, bloeddiwch lef

Seiniwch utgorn, bloeddiwch lef!
Rhowch bob croeso iddo Ef.
Dewch, ymunwch gyda ni i foli Brenin Nef.
Sain telynau, curiad drwm –
Paratowch y ffordd i hwn.
Fe ddaw yn ôl i’n daear,
Bydd pob tafod yn cyffesu:

‘Iesu, Fab Duw, Iesu, Fab Duw.’
Dewch, plygwch i’w awdurdod nawr;
Fe goncrodd hwn y gelyn mawr.
Allweddau’r fall sydd yn ei law –
‘Iesu, Fab Duw, Iesu, Fab Duw.’

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Sound the trumpet: Dave Bilbrough
© 1991 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 121)

PowerPoint