logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Sefyll o dan adain cariad Duw

Sefyll o dan adain cariad Duw
A ddaw a hedd i ni.
Gwneuthur ei ewyllys ein byw
Dry’n foliant, moliant, moliant iddo ef.

Plygu wrth ei draed yn wylaidd wnawn
Gan fyw mewn harmoni.
Uno gyda’n gilydd yn ein mawl –
‘Teilwng, teilwng, teilwng yw yr Oen!’

Cwlwm cariad sy’n ein clymu ‘nawr
I fod yn un â thi.
I’th ewyllys plyga ni, ein Tad,
‘Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd yw yr Iôr!’

(Caneuon Ffydd 232; Grym Mawl 1: 101)

David J Hadden & Bob Sylvester: Living Under The Shadow Of His Wing,
Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwilym Ceiriog Evans
Harlfraint © 1983 Restoration Music Ltd. Gweinyddir gan Sovereign Music UK

PowerPoint